Bu Leah Rhydderch, sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu yn Watkins & Gunn ar raglen Post Cyntaf, BBC Radio Cymru yn ddiweddar yn trafod “upskirting” a’r newidiadau i gyfraith cam-drin ddomestig.
Ers 12 Ebrill, ac yn ôl Deddf Troseddau Voyeuriaeth 2019, mae’n drosedd i dynnu llun neu fideo o dan ddilledyn rhywun er mwyn gweld ei ddillad neu ei organau cenhedlu.
Gall rhywun wynebu 2 flynedd o garchar os yw’n cael ei ddedfrydu’n euog o’r fath drosedd.
Mae’r troseddau newydd yn berthnasol mewn achosion lle:
(1) Heb ganiatâd, mae person yn tynnu lluniau o dan ddillad person arall er mwyn arsylwi ar ei organau cenhedlu neu ei ben-ôl, boed wedi’i orchuddio neu ei orchuddio gan ddillad isaf
(2) Mae gan y troseddwr gymhelliad o naill ai ennill boddhad rhywiol neu achosi cywilydd, gofid neu geisio dychryn y dioddefwr
Mae’r Ddeddf hefyd yn sicrhau bod y troseddwyr mwyaf difrifol, lle mai diben y drosedd yw cael boddhad rhywiol yn cael ei gofrestru ar y gofrestr troseddwyr rhyw.
Profodd dwy filiwn o bobl gam-drin domestig rhwng Mawrth 2017 a Mawrth 2018.
O’r rhain, roedd 1.3 miliwn yn fenywod a 695,000 yn ddynion. Dim ond 89,091 o achosion arweiniodd at erlyniad.
Nid ydym yn siwr pryd y daw y deddfau newydd i rym, ond pan ddaw y newidiadau i’r “bil” cam – drin domestig, bydd y diffiniad cyfreithiol o gam-drin domestig bellach yn cydnabod fod cam-drin domestig hefyd yn cynnwys camdriniaeth emosiynol a chael eich rheoli.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod risg erlyniaeth i’r rhai sy’n cam-drin eu partneriaid drwy reoli eu harian neu yn eu rheoli yn gyffredinol.
Mae cam-drin ariannol yn cynnwys atal partner rhag gweithio neu ei atal rhag defnyddio ei gyfrif banc.
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn gwahardd yr hawl sydd gan ddiffynnydd i groesholi dioddefwr mewn achos llys teulu (mae eisoes wedi’i wahardd mewn llysoedd troseddol).
Bydd y ddeddf yn sicrhau gofal arbennig i ddioddefwr pan fyddant yn rhoi tystiolaeth yn y llys.
Mae’r gyfraith hefyd wedi creu pwerau newydd sydd yn gorfodi tramgwyddwyr i gymeryd rhan mewn cyrsiau newid ymddygiad. Yn ogystal bydd “comisiynydd cam-drin domestig” yn cael ei chyflwyno / ei gyflwyno a byddant yn ymrwymo i frwydro yn erbyn problem cam-drin ddomestig.
Bydd y gyfraith newydd yn creu dull mwy effeithiol o fynd i’r afael â cham-drin domestig a bydd y newid yn cael ei groesawu gan ddioddefwyr cam-drin domestig.
Mae Leah Rhydderch yn gyfreithwraig sy’n siarad Cymraeg. Mae hi’n arbenigo mewn cyfraith teulu ac yn rhan o dîm Teulu, Watkins & Gunn.