Chat with us, powered by LiveChat

#DatrysEichProblem

Croeso i Watkins & Gunn, cwmni cyfreithiol sy’n cynnig ystod llawn o wasanaethau personol a gwasanaethau busnes, ac sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.

Rydyn ni’n credu y dylai pawb allu manteisio ar y gyfraith ar eu telerau eu hunain. Rydym yn hyrwyddo dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddatrysiadau, lle mae buddiannau ein cleientiaid yn dod gyntaf bob amser.

Mae ein cyfreithwyr profiadol ac agos atoch chi, yn helpu pobl a busnesau i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’w problemau cyfreithiol.

Yn Watkins & Gunn, rydym yn sicrhau bod ein datrysiadau cyfreithiol rhagorol yn cael eu cyflwyno’n glir, gan arbenigwyr cymwysedig y gallwch ymddiried ynddyn nhw (a phobl agos atoch chi sydd wirioneddol yn poeni), gydag eglurder o ran costau ac mewn amser a modd sy’n addas i chi.

Rydym hefyd yn ymfalchïo o fod yn rhan annatod o’r cymunedau lleol rydyn ni’n eu helpu – gan gefnogi llwyddiant busnesau a grwpiau cymunedol lleol eraill.

Ein hymrwymiad i chi:

Yn anad dim, rydym wedi ymrwymo i drin ein cleientiaid fel yr hoffem ni gael ein trin – gan helpu i oresgyn yr heriau mae pobl yn aml yn eu hwynebu wrth brynu cyngor cyfreithiol:

  • I wrando ar eich anghenion
  • I gynnig atebion cyfreithiol heb jargon, o’r radd flaenaf gan gyfreithwyr rhagweithiol
  • I fod yn glir ynghylch costau
  • I dderbyn gwasanaeth gwych gan ein staff a’n cyfreithwyr – bob amser
  • I fod yn agos atoch chi ac yno i chi (rydym yn agored ar ddyddiau Sadwrn!)
  • I weithio gyda phobl sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi eraill

Pwy ydym ni

Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein treftadaeth gyfoethog o dros 100 mlynedd o ddarparu atebion cyfreithiol a mynediad i gyfiawnder yng Nghymru a thu hwnt. Eto, rydym yn deall bod cleientiaid heddiw yn disgwyl mwy. Rydym yn datblygu ac yn herio safonau uchel ein gwasanaeth i greu argraff arnoch chi drwy’r amser, yn hytrach nag eistedd y tu ôl i lyfrau cyfreithiol llychlyd.

Rydym yn un o’r cwmnïau proffil uchel mwyaf yn Ne Cymru, gyda swyddfeydd prysur a bywiog yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Phont-y-pŵl (lle bu i ni ddechrau) ac yn awr, diolch i’r broses o ehangu ein meysydd cyfraith busnes a masnachol, mae gennym swyddfa hefyd yn y ddinas yn Llundain.

Rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol ar gyfer unigolion, gan gynnwys ewyllysiau a materion profiant, materion teuluol, cyfraith eiddo, cyfraith gyhoeddus ac addysg, anaf personol a chyfraith trosedd. Gall ein cyfreithwyr gynnig cefnogaeth lawn i fusnesau bach a mawr, unigolion gyda gwerth net uchel a gweithwyr proffesiynol gydag unrhyw fath o fater cyfreithiol, o gyfraith busnes a thechnoleg i gyfraith cyflogaeth, atebion AD a chyngor cyfreithiol am eiddo masnachol. Yn bwysicach na hynny, mae ein timau’n cael eu harwain gan arbenigwyr yn eu maes sy’n deall yr hyn mae cleientiaid ei angen, yn ei ddisgwyl ac eisiau, heddiw ac yfory.

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn eich helpu chi neu defnyddiwch ein cyfleuster sgwrs fyw!

Proffiliau

 

Leah Rhydderch

Mae Leah yn Gymrawd ac yn Gyfreithwraig yn ein tîm Materion Teuluol, gan gefnogi cleientiaid gyda’i harbenigedd mewn materion ysgariad, anghydfodau am gydfyw, plant, materion ariannol ategol a thrais domestig.

Mae hi’n adnabyddus am ei dull clir, ymarferol a phenodol a, lle bo angen, ei chynrychiolaeth gref a chadarn yn y llys. Ymunodd Leah gyda Watkins & Gunn yn 2013.

Mae Leah yn siaradwr Cymraeg rhugl ac wedi ymddangos ar BBC Cymru yn sôn am gyfraith teulu.

Glasbrint

Gall Leah gynnig  ein glasbrint trwy gyfrwng y Gymraeg.  A fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Cymwysterau Proffesiynol

·       Arbenigwr Achrededig Resoltuion

Aelodaethau Proffesiynol
  • Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr
  • Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr Panel Cyfraith Teulu
  • Resolution (Solicitors Family Law Association gynt)
Y tu allan i’r gwaith

Mae Leah yn deithiwr byd brwdfrydig, yn mwynhau rhyfeddodau’r byd gyda’i gŵr a’i merch. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn treulio ei amser rhydd a’i phenwythnosau yn crwydro’r awyr agored.