Mae Leah Rhydderch yn Uwch Gymrawd ac yn bennaeth y Tîm Teulu Preifat.
Mae hi’n arbenigo ym mhob agwedd o gyfraith teulu gan gynnwys achosion ariannol cymhleth gwerth net uchel sy’n cynnwys busnesau a phartneriaethau, buddsoddiadau gwerth miliynnau o bunnoedd, cronfeydd pensiwn mawr, portffolios eiddo lluosog, eiddo tramor, cychod hwylio, anghydfodau cyd-fyw, cytundebau cyn ac ar ôl priodas, ac achosion cymhleth plant.
Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ac mae’n cael ei pharchu fel arbenigwraig yn ei maes.
Mae hi’n hynod hyderus ym mhob agwedd.
Mae cael ei hadnabod am ei phroffesiynoldeb, yn hynod wybodus ac yn ymfalchïo ei bod yn cynnig gwasanaeth empathig a gonest, cyngor clir, cadarn, adeiladol, manwl ac ymarferol.
Mae hi’n fedrus yn ei maes.
Mae Leah yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac yn cynrychioli cleientiaid yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ganddi sylfaen cleientiaid gynyddol o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith yn Ne Cymru. Mae hi’n angerddol am allu darparu’r gwasanaeth arbenigol hwnnw i’r rhai sy’n ei geisio trwy gyfrwng y Gymraeg/neu’r Saesneg.
Mae hi hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar BBC Cymru yn rhoi sylwadau ar faterion cyfraith teulu.
![]() |
![]() |
![]() |
To view Leah’s profile in English, please click here.


