Rydym yn dilyn Côd Ymarfer (Code of Practie) sy’n hyrwyddo dull adeiladol o ddelio â materion teuluol ac yn ystyried anghenion y teulu cyfan.
Mae hi yn WYTHNOS YSGARIAD, 30 o Dachwedd hyd at 4 Rhagfyr. Mae Wythnos Ysgariad, yn fenter flynyddol gan Resolution i godi ymwybyddiaeth o waith aelodau Resolution. Mae’r Côd Ymarfer yn cael ei roi wrth wraidd Wythnos Ysgariad .
Er mwyn cefnogi Wythnos Ysgariad (30 Tachwedd – 4 Rhagfyr 2020), rydym yn ymrwymo i roi 30 munud o gyngor cyfreithiol broffesiynol am ddim i’r rhai sydd ei angen. Mae’r pandemig yn rhoi perthnasoedd dan bwysau difrifol ac rydym yma i’ch cefnogi mewn cyfnod o argyfwng.
Bydd yr ymgynghoriad rhad ac am ddim o 30 munud yn cynnig cyfle i chi drafod pethau ymhellach; byddwn yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ichi.