#DatrysEichProblem
Croeso i Watkins & Gunn, cwmni cyfreithiol sy’n cynnig ystod llawn o wasanaethau personol a gwasanaethau busnes, ac sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.
Rydyn ni’n credu y dylai pawb allu manteisio ar y gyfraith ar eu telerau eu hunain. Rydym yn hyrwyddo dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddatrysiadau, lle mae buddiannau ein cleientiaid yn dod gyntaf bob amser.
Mae ein cyfreithwyr profiadol ac agos atoch chi, yn helpu pobl a busnesau i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’w problemau cyfreithiol.
Yn Watkins & Gunn, rydym yn sicrhau bod ein datrysiadau cyfreithiol rhagorol yn cael eu cyflwyno’n glir, gan arbenigwyr cymwysedig y gallwch ymddiried ynddyn nhw (a phobl agos atoch chi sydd wirioneddol yn poeni), gydag eglurder o ran costau ac mewn amser a modd sy’n addas i chi.
Rydym hefyd yn ymfalchïo o fod yn rhan annatod o’r cymunedau lleol rydyn ni’n eu helpu – gan gefnogi llwyddiant busnesau a grwpiau cymunedol lleol eraill.
Ein hymrwymiad i chi:
Yn anad dim, rydym wedi ymrwymo i drin ein cleientiaid fel yr hoffem ni gael ein trin – gan helpu i oresgyn yr heriau mae pobl yn aml yn eu hwynebu wrth brynu cyngor cyfreithiol:
- I wrando ar eich anghenion
- I gynnig atebion cyfreithiol heb jargon, o’r radd flaenaf gan gyfreithwyr rhagweithiol
- I fod yn glir ynghylch costau
- I dderbyn gwasanaeth gwych gan ein staff a’n cyfreithwyr – bob amser
- I fod yn agos atoch chi ac yno i chi
- I weithio gyda phobl sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi eraill
Pwy ydym ni
Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein treftadaeth gyfoethog o dros 100 mlynedd o ddarparu atebion cyfreithiol a mynediad i gyfiawnder yng Nghymru a thu hwnt. Eto, rydym yn deall bod cleientiaid heddiw yn disgwyl mwy. Rydym yn datblygu ac yn herio safonau uchel ein gwasanaeth i greu argraff arnoch chi drwy’r amser, yn hytrach nag eistedd y tu ôl i lyfrau cyfreithiol llychlyd.
Rydym yn un o’r cwmnïau proffil uchel mwyaf yn Ne Cymru, gyda swyddfeydd prysur a bywiog yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Phont-y-pŵl (lle bu i ni ddechrau)
Rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol ar gyfer unigolion, gan gynnwys ewyllysiau a materion profiant, materion teuluol, cyfraith eiddo, cyfraith gyhoeddus ac addysg, anaf personol a chyfraith trosedd. Mae ein timau’n cael eu harwain gan arbenigwyr yn eu maes sy’n deall yr hyn mae cleientiaid ei angen, yn ei ddisgwyl ac eisiau, heddiw ac yfory.
Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn eich helpu chi neu defnyddiwch ein cyfleuster sgwrs fyw!
Leah Rhydderch, Uwch Gymrawd, Cyfreithwraig a phennaeth y Tîm Teulu Preifat.
Mae Leah yn siaradwraig Cymraeg ac yn cynrychioli cleientiaid yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ganddi sylfaen cleientiaid gynyddol o fewn y gymuned Gymreig yn Ne Cymru. Mae hi’n angerddol am allu darparu’r gwasanaeth arbenigol hwnnw i’r rhai sy’n ei geisio trwy gyfrwng y Gymraeg/neu’r Saesneg.