Chat with us, powered by LiveChat
10 Nov 20
Wythnos ysgariad (30 Tachwedd – 4 Rhagfyr)

Mae Tîm Ysgariad Teulu Watkins & Gunn yn aelodau ymroddedig o Resolution. Cymuned o weithwyr proffesiynol cyfiawnder teulu sy’n gweithio gyda theuluoedd ac unigolion i ddatrys materion mewn ffordd adeiladol yw Resolution.

Rydym yn dilyn Côd Ymarfer (Code of Practie) sy’n hyrwyddo dull adeiladol o ddelio â materion teuluol ac yn ystyried anghenion y teulu cyfan.

Mae hi yn WYTHNOS YSGARIAD, 30 o Dachwedd hyd at 4 Rhagfyr. Mae Wythnos Ysgariad, yn fenter flynyddol gan Resolution i godi ymwybyddiaeth o waith aelodau Resolution. Mae’r Côd Ymarfer yn cael ei roi wrth wraidd Wythnos Ysgariad .

Er mwyn cefnogi Wythnos Ysgariad (30 Tachwedd – 4 Rhagfyr 2020), rydym yn ymrwymo i roi 30 munud o gyngor cyfreithiol broffesiynol am ddim i’r rhai sydd ei angen. Mae’r pandemig yn rhoi perthnasoedd dan bwysau difrifol ac rydym yma i’ch cefnogi mewn cyfnod o argyfwng.

Bydd yr ymgynghoriad rhad ac am ddim o 30 munud yn cynnig cyfle i chi drafod pethau ymhellach; byddwn yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ichi.

I gysylltu â ni am apwyntiad –

  1. Ffoniwch 01633262122

  2. E-bostiwch ni trwy glicio yma

  3. Gyrrwch neges destun “Legal divorce” i 67777

 

 

Contact us today 0300 1240 400